Siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, rydan ni eisiau dy help!

Rydan ni’n paru siaradwyr Cymraeg gyda Dysgwyr, i ail-greu perfformiad celf hanesyddol


Yn 1968, rhoddodd yr artist Almaeneg Joseph Bois perfformiad am awr. Dim ond yn dweud, “Ja”,  a “Nein”, am y 60 munud i gyd.
Wnaeth bobol adael, chwerthin neu syrthio i drâns gan ei lais hudol.
Aeth Beuys ymlaen i fod yn enwog yn yr avant-garde.


‘Yes’ a ‘No’ yn Gyrmaeg?
Roedd Beuys yn hoffi’r gwledydd Celtaidd yn fawr iawn. Wrth ini farcio can-mlynedd ers geni Beuys. Sut dylen ni, yng Nghymru, meddwl am ei berfformiad?
Achos, dydy’r ieithoedd Celtaidd ddim yn defnyddio dim ond un gair am ‘Yes’ neu ‘No’.
I siaradwyr Cymraeg mae’n beth naturiol.
Ond mae’n broblem fawr i ddysgwyr. I ddysgwyr mae’n haws dweud, ‘iawn’, ‘wrth gwrs’ neu ‘dim diolch’, na  meddwl am gramadeg.

Helpu’r project – Cael hwyl!
Os ti’n siarad Cymraeg, neu’n dysgu Cymraeg, rydan ni eisiau dy helpi.
Felly rydan ni’n paru siaradwyr a dsygwyr Cymraeg i ail-greu perfformiad Beuys – sut bynnag sy’ eisiau.
I’w ffilmio ar Skype neu Zoom, neu mewn person os yn bosib gyda rheolau Covid.
Bydd cyfraniadau pawb yn cael eu golygu mewn i ffilm i’w ddangos ar-lein ac yng Nghymru a’r Almaen, Mai 2021.
Cysylltu: [email protected]



Pwy oedd Joseph Beuys?
Yn un o artistiaid mwyaf dylanwadol ail hanner yr 20fed ganrif. Roedd yn aelod amlwg o ‘Fluxus’ gyda phobol fel Yoko Ono a John Cale. Mae gwaith profoclyd ac arloesol Beuys wedi cael dylanwad mawr ar gelf gyfoes.
Mae 2021 yn 100-mlwyddiant geni Beuys
Am fwy am Bueys: Am fwy am Bueys: https://cy.wikipedia.org/wiki/Joseph_Beuys

Beth yw NWK?
Mae Neue Walisische Kunst (NWK) (Celf Newydd Cymru) yn grŵp celf a sefydlwyd yn 2020. 
Mae’r grŵp yn cynnal digwyddiadau celfyddydol, gwneud ffilmiau, cyhoeddi maniffestos ac yn rhannu cerdiau aelodaeth. 
Mae’r grŵp wedi’i hysbrydoli gan y mudiad celf arbrofol 1960au-70au Fluxus ac artistiad avant-garde fel Joseph Beuys a'r cyfarwyddwyr ffilm brofoclyd Christoph Schlingensief. Y ddau yn Almaenwyr ac mae’r grŵp yn defnyddio’r iaith Almaeneg ar eu henw ac yn eu gweithgareddau, ynghyd â Chymraeg a Saesneg.
Gwefan NWK: https://deutsch-walisische-freundschaft.jimdosite.com/neue-walisische-kunst/